Y Blas Sy'n Cyfri

I gael blas ar fwyd a diod gorau'r rhanbarth, dilynwch hynt a helynt yr awdur teithio Huw Thomas wrth iddo deithio o amgylch Eryri yn hel ei fol.

Yng Nghymru, mae 2024 yn Flwyddyn y Llwybrau, ac mae'n gyfle i fentro allan a chrwydro mewn llefydd newydd a chael profiadau newydd. Dyma'r esgus perffaith i mi felly i fentro ar siwrne i Ogledd Cymru i flasu'r hyn sydd gan Eryri i'w gynnig o ran bwyd a diod. 

Diwrnod un - y mêl a'r gwirodydd gorau  

Codais yn gynnar a gadael fy nghartref yn Sir Fynwy a theithio i'r gogledd ar hyd yr A470, asgwrn cefn troellog Cymru; dyma un o'm hoff deithiau yn y car. Wrth i gyfuchlinau tonnog y Canolbarth ildio i wneud lle i fynydd-dir garw a charegog Eryri, rwy'n teimlo fy chwant bwyd yn codi wrth i mi feddwl am y profiadau sydd o fy mlaen. 

Llanberis

Fy stop cyntaf yw Llanberis, y pentref bywiog ger y llyn sy'n sefyll wrth droed Yr Wyddfa, er mwyn galw draw yn Fferm Fêl a Gwindy Yr Wyddfa. Os ydych chi'n debyg i mi ac prynu eich mêl yn yr archfarchnad fel arfer, mae'r amrywiaeth sydd ar gael yma yn siŵr o'ch synnu. Wrth fynd ati i flasu dan arweiniad arbenigol perchennog y siop, Deryl Jones (cymeriad hynod groesawgar a gwybodus), dowch i wybod am yr ehangder cymhleth o flasau sy'n cael eu dylanwadu gan leoliad bob cwch gwenyn.

Snowdon Honey Farm and Winery

Yma hefyd ceir dewis helaeth o winoedd ffrwythau sydd wedi'u cynhyrchu yn lleol a medd Cymreig (perffaith i yfwyr sydd â dant melys).  Ffarweliaf â'r siop yn cario llond gwlad o anrhegion i bawb yn ôl adref, yn ogystal â chyffug mêl blodau gwyllt i mi fy hun - rhywbeth bach i fy nghadw i fynd ar hyd fy nhaith.  

Ar hyd y daith 
Os ydych chi'n teithio o dde neu ganolbarth Cymru ar eich taith fwyd a diod eich hun, mae digonedd o lefydd i stopio ac ail-danio'r batris. Rhowch gynnig ar y Brigands Inn ym mhentref bychan Mallwyd sy'n gweini prydau bwyd a byrbrydau (dwi'n gwybod o brofiad bod y frechdan borc a stwffin yn werth ei chael). Fel arall, mae'r Cross Foxes fymryn y tu allan i Ddolgellau yn dafarn/bwyty croesawgar sy'n boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.  

Gan gario ymlaen tuag at yr arfordir, fy stop nesaf yw Distyllfa Aber Falls yn Abergwyngregyn. Dafliad carreg o'r rhaeadr godidog sy'n rhoi enw i'r lleoliad a chyflenwad o ddŵr croyw, mae canolfan ymwelwyr drawiadol y ddistyllfa yn cynnwys caffi, siop a hyd yn oed labordy lle y gallwch arbrofi a chreu jin gyda blas unigryw i chi.   

Er eich bod o bosib yn gwybod am y dewis o jin sydd ar gael gan Aber Falls, wisgi yw'r prif gynnyrch. Yn gyfreithiol, rhaid i wisgi dreulio o leiaf dair blynedd a diwrnod yn aeddfedu yn ei gasgen (dyma un ffaith ddiddorol y dysgais yn ystod fy ymweliad). I'w cynnal yn ystod y cyfnod hirfaith hwn, fe ddechreuodd y cwmni gynhyrchu jin, sy'n gallu bod yn barod yn y botel mewn ychydig o wythnosau.   

Mae'r ffaith bod eu jin wedi ennill sawl gwobr ryngwladol yn brawf o ddawn anhygoel Aber Falls i gynhyrchu gwirodydd arbennig. Bellach, gyda'r gwaith o gynhyrchu'r wisgi yn ei anterth, maent yn allforio i bedwar ban y byd ac yn ddiweddar maent wedi ymestyn eu gweithfeydd distyllu er mwyn ymdopi â'r galw.  

Mae'r daith dywys o amgylch y ddistyllfa yn rhoi golwg ryfeddol i chi ar y broses hynod gymhleth o gynhyrchu wisgi, ynghyd â chyflwyniad i gyfoeth o dermau distyllu lliwgar a difyr (oeddech chi'n gwybod mai'r enw ar y tamaid o'r gwirodydd sy'n anweddu yn ystod y broses aeddfedu yw'r 'Angel's Share'?)  

Daw'r daith tywys i ben gyda chyfle i flasu rhywfaint o gynnyrch Aber Falls. Dydw i ddim yn arbenigwr wisgi o bell ffordd, ond erbyn y diwedd rwy'n gallu dweud yn hyderus beth yw'r gwahaniaeth rhwng wisgi sydd wedi'i aeddfedu mewn hen gasgen bourbon ac un a wnaed mewn casgen win Barolo Eidaleg. 

Treuliaf fy noson yn nhafarn hanesyddol  Y Black Boy, sy'n llechu y tu mewn i waliau canoloesol tref Caernarfon. Mae'n ddrysfa o le sydd wedi bod yn croesawu gwesteion ers y 1500au. Mae'n werth cymryd y risg o daro eich pen ar ddistiau isel y to i gael pryd cartref wrth y tân yn un o'r bariau clyd.

Black Boy Inn

Diwrnod dau - crwydro Llŷn

Mae ail ran fy siwrne yn mynd â mi i Benrhyn Llŷn, 'braich' ddramatig Eryri sy'n ymestyn allan i Fôr Iwerddon.  Y stop cyntaf am y dydd yw bragdy Cwrw Llŷn yn nhref Nefyn, i gwrdd â sefydlwr y cwmni, Iwan ap Llyfnwy. Mae'r hyn a ddechreuodd fel hobi i Iwan yn 2001 wedi mynd yn rhy fawr i'w dau leoliad cyntaf, gyda'r bragdy bellach â'i bencadlys mewn eiddo mawr sy'n lle i Gwrw Llŷn gynhyrchu ei gwrw a gofod cymdeithasol i yfwyr ymgynnull i'w mwynhau.  

Mae dwy ran y busnes wedi'u cysylltu â ffenestr fawr, sy'n gadael i gwsmeriaid eistedd yn ardal y bar i wylio'r bragwyr wrth eu gwaith. Dywed Iwan wrtha i bod yr oriau bar agored wedi mynd yn boblogaidd tu hwnt, yn enwedig yn ystod misoedd cynhesach pan all ymwelwyr fynd i fwynhau'r haul a'u Cwrw Llŷn y tu allan.

Cwrw Llŷn Beer Selection  

Mae dewis y bragdy - popeth o gwrw golau ysgafn i gwrw coch cyfoethog - wedi'i ysbrydoli gan bobl, llefydd a straeon Llŷn a thu hwnt (rwy'n argymell y Porth Neigwl IPA, sydd wedi'i enwi ar ôl y traeth gwyllt ym mhen gorllewinol y penrhyn).  Mae hi braidd yn gynnar i ddechrau blasu diodydd y bragdy, felly rwy'n fodlon gadael efo ychydig o samplau i'w mwynhau unwaith y bydd y car wedi'i barcio yn ddiogel ar gyfer y nos.

Ar hyd y daith 
Am baned mewn lleoliad godidog, teithiwch o Lithfaen i lawr y ffordd droellog sy'n arwain i  Nant Gwrtheyrn. Yn ogystal â bod yn ganolfan iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig, mae'r cyn bentref chwarelydda hwn yn gartref i Gaffi Meinir, lle y gallwch fwynhau danteithion y caffi wrth weld rhai o'r golygfeydd gorau o'r môr sydd i'w cael yn Llŷn. Fel arall, ewch draw i Cwt Tatws ger Tudweiliog, sy'n siop goffi, deli a siop boutique ger Traeth Porth Towyn. 

Cwt Tatws  

Ymlaen â fi wedyn i ochr ddeheuol Llŷn ac i Lanbedrog ac Oriel Plas Glyn y Weddw. Mae'r plasdy Fictoraidd mawreddog hwn ar fryn coediog ger y môr yn gartref i oriel gelf hynaf Cymru ymysg pethau eraill. Cyn mentro i mewn i fwynhau'r gwaith celf yn yr orielau, rwy'n treulio rhywfaint o amser yn crwydro ar hyd y rhwydwaith o lwybrau sy'n igam-ogamu drwy'r coetiroedd cyfagos a thrwy'r tiroedd, sy'n frith o gerfluniau trawiadol.  

Ond, nid yw'r gwaith celf yr wyf i wir am ei weld yn hongian ar wal ym Mhlas Glyn y Weddw. Yr hyn yr wyf i am ei weld yw caffi newydd yr oriel, sy'n strwythur trawiadol ar ffurf môr-ddraenog arian anferthol. Wedi'i ddylunio gan yr artist Matthew Sanderson, mae'n ychwanegiad beiddgar ond sympathetig i'r adeilad hanesyddol hwn.

Oriel Plas Glyn y Weddw  

Wedi'i lenwi â golau naturiol, mae'n edrych yr un mor dda o'r tu mewn, lle mae dewis o brydau artistig ar gael. Rwy'n dewis cawl cennin a phys gwyrdd, gyda brechdan corgimychiaid ar fara ffres - perffaith i ail-danio'r batris cyn i mi fynd yn fy mlaen i Gricieth, tref fach ddel sydd ag olion castell canoloesol yn sefyll ar fryn yn edrych drosti. 

Oriel Plas Glyn y Weddw Cafe Food

I swper, rwy'n mynd draw i Dylan’s, wedi'i leoli mewn adeilad art-deco ddim ond dafliad carreg o'r traeth. Mae'r gadwyn fechan hon o fwytai annibynnol yn enwog yng Ngogledd Cymru (mae ganddynt fwytai yn Llandudno a Phorthaethwy hefyd, ynghyd â becws a deli yng Nghonwy lle mae sôn hefyd bod bwyty ar ei ffordd yno o bosib), sydd wedi gwneud enw i'w hunain am fwyd cyfoes yn cael ei gynhyrchu â chynhwysion Cymreig ffres.  

Rwy'n dewis moules marinière, wedi'i gynhyrchu â chregyn gleision o'r Fenai, wedi'u gweini â bara ffres. Mae'r pysgod cregyn yma, sydd wedi cael eu casglu o wely môr y Fenai, yn un o brydau mwyaf poblogaidd ar fwydlen Dylan's. Er eu bod yn fymryn llai na nifer o'r mathau mwy cyffredin, dydi hynny yn effeithio dim ar eu blas. Mae pob un â blas melys, ffres o'r môr - y peth delfrydol i'w fwynhau wrth edrych ar yr haul yn machlud o dan y tonnau. 

Dylan's Cricieth

Diwrnod tri - torri syched a danteithion o'r deli

Teithiaf draw o Gricieth i Borthmadog i ymweld â Bragdy'r Mŵs Piws sydd wedi ennill llu o wobrau, a'i sylfaenydd, Lawrence Washington. Mae Lawrence, cyn fyfyriwr cerdd a drodd ei greadigrwydd tuag at fragu, wedi adeiladu busnes cwrw heb ei ail yn y dref - gyda bragdy, siop a dwy dafarn Yr Australia a'r Station Inn).  

Aeth Lawrence â fi am daith o amgylch y bragdy, a gadael i mi gymryd cipolwg ar gwrw'n aeddfedu'n braf, cyn i ni fynd draw i'r Australia am ginio. Mae'r dafarn wedi bod ar y stryd fawr ers cyn cof, ond ers i'r Mŵs Piws gymryd y dafarn drosodd, mae egni newydd yn perthyn i'r lle. Y tu mewn, mae cwrw'r bragdy i'w weld yn amlwg yn y bar, ac mae bwydlen yn cynnig bwyd tafarn traddodiadol sy'n ddigon i dynnu dŵr o'r dannedd.

Purple Moose Beer  

Mae Lawrence yn argymell y dylwn i fynd am y pei stêc a chwrw, sydd wedi'i gwneud â chwrw Dark Side Mŵs Piws - un o nifer o brydau'r dafarn sydd â chynnyrch y bragdy ynddynt. Mae'n ddewis da. Nid pei gydag un o'r caeadau pastai pwff sy'n arnofio ar ddysgl llawn stiw yw'r pei hon, ond pei go iawn yn llawn darnau brau o gig eidion mewn grefi cyfoethog. Mae'n bryd tipyn mwy na'r hyn yr wyf yn ei gael i ginio fel arfer, ond mae pob darn yn diflannu i lawr y lôn goch. 

Ar ôl cinio, mae cyfle i bicio i Siop y Bragdy, sydd wedi'i lleoli'n gyfleus iawn ddau ddrws i lawr o'r Australia. Yn ogystal â'r silffoedd llawn cwrw Mŵs Piws, mae yma hefyd ddewis eang o gynnyrch Cymreig. Gyda seidr, wisgi, jin, rym a fodca a llawer mwy ar gael, mae'n ffenest siop anhygoel i'r farchnad ddiodydd sydd ar gael yng Nghymru.  

Ar hyd y daith 
Ewch i  Y Groser yn Harlech, siop y gornel ar ei newydd wedd, yn gwerthu peth o'r cynnyrch gorau o Gymru a thu hwnt - yn ogystal â chownter deli yn llawn dop o gawsiau godidog o Gymru, ynghyd â dewis gwych o beis, teisennau a rholiau selsig. Os ydych yn pasio drwy Ddolgellau, mae'n werth stopio yn Dylanwad. Mae'r gwerthwyr gwin, bar-caffi a deli teuluol hwn yn gweini coffi a byrbrydau bendigedig, lle y gallwch hefyd fwynhau gwydraid o win coeth - mae'r dewis yn helaeth yma. 

Gwin Dylanwad Wine

O Borthmadog, rwy'n teithio i'r de i dref glan y môr lliwgar Abermaw, sydd wedi'i lleoli yn aber yr Afon Mawddach (yn ddiweddar, dywedodd The Sunday Times bod hwn yn un o'r llefydd gorau i fyw yn 2023 oherwydd awyrgylch gyfeillgar y dref fechan a'i chefnlen hudolus). A finnau'n dal yn llawn ers amser cinio, rwy'n mynd am dro i fyny i Ddinas Oleu. Saif Dinas Oleu yn dalog uwchben y dref, a hwn oedd eiddo cyntaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol pan gafodd ei roi'n rhodd i'r mudiad gan y tirfeddiannwr a'r dyngarwr, Fanny Talbot, ym 1895.  Gyda golygfeydd trawiadol dros Fae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn, mae'r ddringfa i fyny'r llethrau eithinog yn werth pob ymdrech. 

Yn addas iawn, y stop olaf i mi ar fy nhaith yw The Last Inn, tafarn atmosfferig o'r bymthegfed ganrif gyda'i nenfydau isel; mae yno ddigonedd o gorneli bach clyd i swatio'n gynnes. Mae atgofion di-rif o hanes morwrol Y Bermo o'i gwmpas ac mae'n lle delfrydol i ymlacio ac edrych yn ôl ar fy nhaith bwyd a diod yn Eryri. Gan fy mod wedi bwyta'n dda iawn dros y dyddiau diwethaf, mae'n debyg y bydd yn rhaid i mi fynd ar ddiet am gyfnod, ond dydw i'n difaru dim.

The Last Inn

Dim ond cipolwg sydyn iawn oedd hwn o'r bwyd a'r diod sydd gan Eryri i'w gynnig. Am ddarlun llawn o'r hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig, cliciwch yma

Mynd i grwydro

Dim ond un elfen o Eryri yw’r bwyd a'r diod sydd ar gael yma. Mae arlwy llawer mwy yn y rhan hon o Gymru - dewch draw i fwynhau yn y mynyddoedd ac ar hyd yr arfordir. 

Gall cerddwyr grwydro ar hyn rhai o'r rhannau mwyaf trawiadol o Lwybr Arfordir Cymru, gyda dewis o deithiau cylchol cyfleus. Yn ogystal, gallwch brofi'r hyn sydd gan ein dyfroedd mewndirol i'w gynnig gyda teithiau cerdded o amgylch llynnoedd godidog, neu fynd ar antur yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd mwyaf newydd UNESCO ar Lwybr Llechi Eryri. Am ysbrydoliaeth ar ragor o weithgareddau ac anturiaethau yn y rhanbarth, ewch draw i Eryri Snowdonia 360

Mae'n dda bod yn wyrdd yn ystod eich ymweliad. Rydym yn gweithio tuag at Wyddfa Ddi-blastig, felly byddwch yn siŵr o ddod o hyd i lefydd lle y gallwch ail-lenwi eich poteli dŵr am ddim, ledled y rhanbarth. Ac os ydych chi'n dymuno teithio yn yr ardal heb gar, yna ewch ar fws Sherpa’r Wyddfa neu teithiwch yn gynaliadwy ar y trên drwy Cledrau Cymru.